Cynllun Warden Traffig Iau
Mae problemau parcio rhieni a thagfeydd traffig o gwmpas mynedfeydd ysgol yn peryglu bywydau plant ifanc. Mewn ymgais i danlinellu peryglon y math yma o ymddygiad i rieni a gwarchodwyr, mae nifer o ysgolion cynradd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn gweithredu’r cynllun arloesol hwn.
Dan oruchwyliaeth fanwl y Wardeiniaid Traffig a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, mae plant ysgol o lawer o ysgolion yng Nghaerdydd yn patrolio’r strydoedd yn ymyl mynedfeydd yr ysgolion ac yn dweud wrth fodurwyr am beryglon parcio ar linellau melyn dwbl ac igam-ogam, ac yn nodi rhifau cofrestru.
Mae’r cynllun, a lansiwyd yn Ysol Gynradd Radnor yn 2001, yn anelu i addysgu rhieni a gwarchodwyr am y peryglon posibl a all gael eu hachosi gan barcio difeddwl, peryglus ac anghyfreithlon yn agos at fynedfa’r ysgol.
Mae'r cynllun Wardeniaid Traffig Iau, sydd wedi bod yn bwnc trafod i lawer o'r cyfryngau lleol a chenedlaethol, wedi cael ei weithredu yn Y Santes Fair, Canton, Ysgol Gynradd Severn, Ysgol Pwll Coch, Ysgol Treganna, Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Marlborough, Melin Gruffydd a’r Eglwys Wen.
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu nawr yn rhannu rôl oruchwylio gyda’r Wardeiniaid Traffic mewn dwy ysgol yng Nghaerdydd, lle mae parcio yn bryder penodol.
Yn 2001, rhoddwyd y wobr gyntaf i’r cynllun yn seremoni wobrwyo Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Cymru yn Wrecsam ac yn Rhagfyr 2002, derbyniodd wobr yng Ngwobrwyon uchel eu parch Diogelwch y Ffyrdd Rhyngwladol y Tywysog Michael o Gaint.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cynllun cliciwch ar y ddolen i gysylltu â ni isod, neu ffoniwch y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd: 029 2078 8521.