Cynllun Diogelwch y Ffyrdd (Kerbcraft)
Mae Kerbcraft wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus mewn nifer o ysgolion yng Nghaerdydd ers Medi 2002 ac wedi cael derbyniad da gan yr ysgolion sy’n cymryd rhan.
Ariennir y cynllun ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhedeg am uchafswm o 12 wythnos ddilynol ym mhob ysgol.
Mae ‘Kerbcraft' yn defnyddio dulliau hyfforddi ar droed traddodiadol i wella sgiliau cwrb plant ifanc a chodi eu hymwybyddiaeth o draffig.
Mae rhieni sy’n gwirfoddoli a/neu gynorthwywyr dosbarth yn gweithredu fel hyfforddwyr y cynllun, yn gweithio gyda grwpiau bychan iawn o blant a’u helpu i ddatblygu sgiliau arsylwi a phrosesau gwneud penderfyniadau.
Os ydych yn rhiant, athro neu’n llywodraethwr ysgol ac am gael gwybodaeth am gychwyn Kerbcraft yn eich ysgol, cysylltwch â'r Cydlynydd Hyfforddi Plant ar droed os gwelwch yn dda, Ffôn: 2078 8523. Taflen newyddion pdf