Cartref » News » Cyrsiau Seiclo Oedolion
Gweithredoedd Dogfen

Cyrsiau Seiclo Oedolion

Oes gennych chi ddiddordeb mynd yn ôl ar y beic, a chithau heb seiclo am flynyddoedd? Ydych chi am fod yn fwy hyderus wrth seiclo ar y ffordd?

 

688

Cyrsiau Seiclo i Oedolion yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd

Rhaglen Haf 2010

Mae cyfle i oedolion ddatblygu mwy o sgiliau seiclo mewn cwrs undydd am ddim a gynhelir gan Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd. Treulir sesiwn y bore yn dysgu crefft-ffordd a theorïau pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau seiclo ymarferol, gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr, gwiriadau beic sylfaenol a chyngor am wisgo offer amddiffynnol. Bydd sesiwn y prynhawn (gan ddibynnu ar allu'r seiclwyr), yn cynnwys treulio amser yn seiclo ar hyd Taith y Taf ac amryw o lwybrau ar y ffordd gerllaw’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.

Dyddiadau: 

Sul 20th Mehefin 2010

Sad 3rd Gorffennaf 2010

Sul 22nd Awst 2010

Amser:  
10am – 4pm.  NI ddarperir cinio

Gofynion Iechyd a Diogelwch:
Disgwylir i fynychwyr ddod â beic sy’n addas i’r ffordd ac yn addas i’w maint.  Yn dilyn cyngor iechyd a diogelwch, argymhellir gwisgo helmed seiclo yn gryf.

Mwyafswm:
 6 oedolyn a dau hyfforddwr.

Mynychwyr i’w targedu:
Mae’r cwrs ar gyfer plant ac oedolion sy’n gallu reidio beic ond yn dymuno meithrin hyder a datblygu gwybodaeth fel seiclwyr. Mae’r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer y rheini nad ydynt wedi seiclo ers peth amser ond sy’n awyddus i deithio ar feic neu seiclo gyda'u plant.

Costau:
Mae’r cwrs ei hun AM DDIM ond mae angen ffi archebu o £5 gan bob un sydd o bosibl yn mynychu, i’w ad-dalu ar y diwrnod.

Nodwch os gwelwch yn dda y cynhelir y cyrsiau dim ond os oes nifer digonol yn mynychu.

 

Mae’r cwrs ei hun AM DDIM ond mae angen ffi archebu o £5 (i’w ad-dalu ar y diwrnod) gan bob hyfforddai.  

Am wybodaeth bellach yn ymwneud a’r cyrsiau, cysylltwch os gwelwch yn dda â Germaine yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd ar 2078 8527 rso@caerdydd.gov.uk