I'r Ysgol yn Ddiogel
I fyny Un LefelGweithgarwch Cerdded i'r Ysgol
Mae Cyngor Sir Caerdydd yn hyrwyddo wythnosau a digwyddiadau Cerdded i'r Ysgol blynyddol cenedlaethol. Mae amrywiaeth o lenyddiaeth, gan gynnwys sticeri, posteri a deunyddiau hyrwyddol eraill ar gael i'r pwrpas hwn gan y Ganolfan Diogelwch Ffyrdd.
Diogelwch ar Fysiau
Gall teithio i’r ysgol ar y bws fod yn un o’r dulliau mwyaf diogel o gael plant i’r ysgol, ond dylid gwneud plant ifanc a rhieni yn ymwybodol y gall ymddygiad gwael wrth arhosfan bws neu tra’n teithio beryglu bywydau defnyddwyr ffyrdd eraill.
Byddwch yn Ddiogel a Gweladwy - Cyngor cyffredinol ar gyfer defnyddwyr y ffyrdd
Fflworoleuol ac adlewyrchol – y ddau ddeunydd a fydd yn eich gwneud yn weladwy.
Clwb Traffig Cenedlaethol y Plant
Mae Clwb Traffig Cenedlaethol i Blant yn ffordd hwyliog i rieni a gwarcheidwaid ddysgu diogelwch ar y ffordd i blant.
Diogelwch Ffyrdd ger Ysgolion
Mae mynd i’r afael â thagfeydd traffig a pharcio peryglus ac anghyfreithlon gan rieni yn rhy agos i fynedfeydd ysgolion yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Cyngor. Mae modurwyr yn peryglu bywydau plant bach a rhieni pob dydd o'r wythnos, yn enwedig yn ystod amseroedd ysgol. Mewn ymgais i dynnu sylw at y peryglon y mae rhieni a gwarcheidwaid yn eu creu y tu allan i ysgolion, mae'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn defnyddio nifer o ddulliau cyhoeddusrwydd, mentrau gan ysgolion ac ymgyrchoedd gorfodi i bwysleisio'r neges am bwysigrwydd diogelwch.
Llwybrau Mwy Diogel i’r Ysgol
Mae Cynllun Trafnidiaeth y Cyngor 2000 - 2016 yn datgan bod tua 20% o draffig amser brig yn cynnwys tripiau hebrwng, yn bennaf mynd a phlant yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru drwy arian grant trafnidiaeth yn targedu'r math yma o deithio er mwyn gostwng traffic o gwmpas ysgolion ac annog plant a rhieni i ystyried cerdded a seiclo er mwyn eu hiechyd. Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo’n llawn i wella diogelwch ar y daith ysgol ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o ysgolion, cymunedau lleol ac asiantaethau eraill i symud y mater pwysig yma’n ei flaen.