Gweithgarwch Cerdded i'r Ysgol
Mae Cyngor Sir Caerdydd yn hyrwyddo wythnosau a digwyddiadau Cerdded i'r Ysgol blynyddol cenedlaethol. Mae amrywiaeth o lenyddiaeth, gan gynnwys sticeri, posteri a deunyddiau hyrwyddol eraill ar gael i'r pwrpas hwn gan y Ganolfan Diogelwch Ffyrdd.
Digwyddiadau cerdded i’r ysgol
Bob blwyddyn mae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd yn hyrwyddo digwyddiadau ac wythnosau cenedlaethol Cerdded i’r Ysgol. Mae amrywiaeth o lenyddiaeth, gan gynnwys sticeri, posteri a deunyddiau hyrwyddo eraill ar gael at y diben hwn yn rhad ac am ddim oddi wrth y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.
Os ydych yn athro / athrawes, llywodraethwr / llywodraethwraig neu’n rhiant ac yn dymuno gwybod mwy am yr wythnos Cerdded i’r Ysgol, ffoniwch ni ar 2078 8524.
Mae cerdded yn hwyl, yn iach a gall y plant elwa o gael ymarfer corff bob dydd. Mae’n fodd hefyd o leihau’r traffig, sŵn, tagfeydd a llygredd ger ysgolion.
Os ydych yn athro / athrawes, llywodraethwr / llywodraethwraig neu’n rhiant ac yn dymuno gwybod mwy am y mentrau cerdded i’r ysgol ffoniwch aelod o’r Tîm Diogelwch y Ffyrdd.
Lluniodd Ysgol Feithrin Caerau yn Nhrelái lyfr (gweler y llun) fel cofnod o’r wythnos Cerdded i’r Ysgol. Cafwyd digwyddiad hynod lwyddiannus diolch i ymroddiad y rhieni, gofalwyr a’r plant.