Diogelwch ar Fysiau
Gall teithio i’r ysgol ar y bws fod yn un o’r dulliau mwyaf diogel o gael plant i’r ysgol, ond dylid gwneud plant ifanc a rhieni yn ymwybodol y gall ymddygiad gwael wrth arhosfan bws neu tra’n teithio beryglu bywydau defnyddwyr ffyrdd eraill.
Cyngor Diogelwch Bws Ysgol
Cofiwch sefyll ar y palmant yn bell oddi wrth y traffig wrth aros am fws . Mae’n beryglus i chwarae yn agos at yr arosfannau bws.
Cofiwch sefyll ar y palmant ymhell oddi wrth y traffig wrth aros am fws. Mae’n beryglus chwarae yn agos at yr arosfannau bws.
Arhoswch i bobl ddod oddi ar y bws cyn decrhau mynd ar y bws eich hunan.
Gwrandewch ar y gyrrwr a pheidiwch â thynnu ei sylw.
Os oes angen i chi groesi’r ffordd ar ôl dod oddi ar y bws, arhoswch i’r bws symud ymlaen yn gyntaf cyn mentro croesi.
Cofiwch –Bod angen i’r gyrwyr ganolbwyntio ar y dasg o yrru’r bws. Peidiwch â thynnu sylw’r gyrrwr ar unrhyw gyfrif.
Gwisgwch wregys wrth deithio ar y bws ysgol os oes gwregysau ar gael.
Mae gennym sawl pecyn adnoddau defnyddiol i athrawon eu benthyca am ddim o’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd, ar gyfer addysgu ymddygiad da ar y bws ysgol. I gael rhagor o fanylion, cliciwch ar y ddolen isod i gysylltu â ni neu ffoniwch y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd ar: 020 2078 8521.
I gael gwybodaeth am yr ymgyrch ‘Gwisgwch eich gwregys blant’ - Belt Up School Kids (BUSK) cliciwch ar y ddolen isod.