Swyddogion Patrôl Croesi i Ysgolion
Canolfan Diogelwch y Ffyrdd sy’n gyfrifol am redeg a rheoli’r gwasanaeth hwn yng Nghaerdydd. Mae Swyddogion Patrôl Croesi i'w cael mewn sawl lleoliad drwy Gaerdydd, a bob dydd byddant yn helpu miloedd o bobl i groesi'r ffordd yn ddiogel. Mae swyddi gwag ar gael yn y maes hwn yn aml.
Y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd sy’n gyfrifol am reoli’r gwasanaeth yng Nghaerdydd. Mae Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn gweithio mewn sawl lleoliad ledled Caerdydd, ac maent yn helpu miloedd o bobl i groesi’r ffordd yn ddiogel bob dydd. Mae swyddi gwag ar gael yn aml.
Mae swyddi gwag mewn sawl man ledled Caerdydd a’r Sir ac yn aml iawn byddant yn anodd eu llenwi oherwydd bod prinder ymgeiswyr addas yn yr ardal honno.
Os oes gennych chi ychydig oriau sbâr, neu yn adnabod rhywun addas a fyddai’n dymuno cadw ein plant yn ddiogel ar y ffyrdd gan ennill £6.38 yr awr, cysylltwch â ni.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd, cliciwch ar y cyswllt ‘cysylltu â ni’ isod neu ffoniwch y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd: 2078 8525 Atgoffa gyrwyr
Dylech fod yn barod i arafu neu stopio wrth i chi ddynesu at yr hebryngwyr croesfannau ysgolion. Yn ôl y gyfraith rhaid i chi STOPIO unwaith bod yr hebryngwr wedi codi ei law i roi’r arwydd. Ni ddylech chi aros nes eu bod wedi camu i’r ffordd. Yn ôl Rheolau’r Ffordd Fawr, RHAID I CHI STOPIO PAN GEWCH CHI’R ARWYDD I WNEUD HYNNY GAN HEBRYNGWR CROESFAN YSGOL.
Mae’r Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion yn dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant
Dathlodd y gwasanaeth Hebryngwyr Croesfannau Ysgol ei ben-blwydd yn hanner cant oed ym mis Ebrill 2003. Cynhaliwyd barbiciw a gwahoddwyd dros 50 o hebryngwyr croesfannau ysgolion a’u teuluoedd i ddathlu yng ngerddi Canolfan Diogelwch y Ffyrdd ar 29 Mai.
I ddathlu’r garreg filltir hwn yn hanes y gwasanaeth, cyflwynwyd cwpan dathlu, bathodyn a siaced i bob hebryngwr yng Nghaerdydd.
Hanes y gwasanaeth
Penodwyd hebryngwr cyntaf Prydain, menyw o’r enw Mrs Hunt, gan Gyngor Dinas Caerfaddon yn 1937 i weithio y tu allan i ysgol Kingsmead.
Er gwaethaf y cyrchoedd bomio, parhaodd Mrs Hunt i weithio drwy gydol yr Ail Ryfel Byd, gan symud i safle newydd gyda’r plant ar ôl i gyrch awyr ddinistrio’r adeilad gwreiddiol yn 1942.
Yn y 1940’au rhoddwyd cynllun Hebryngwyr arbrofol ar waith yn Llundain a defnyddiwyd Wardeniaid Traffig i hebrwng plant Dagenham yn 1949.
Daeth yn syniad poblogaidd a dechreuodd bwrdeistrefi eraill yn Llundain benodi hebryngwyr eu hunain, a phenderfynodd yr Heddlu Llundain fabwysiadu a rheoli’r gwasanaeth hwn eu hunain.
Cydnabuwyd gwerth yr hebryngwyr hyn yn ffurfiol ym Mhrydain drwy’r Ddeddf Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion 1953 a rhoddwyd yr hawl iddynt weithio ledled y wlad.
Yr awdurdodau lleol sydd nawr yn bennaf gyfrifol am y gwasanaeth hwn yng Nghymru a Lloegr.
Ehangwyd ar eu pwerau yn 2001 er mwyn iddynt allu helpu oedolion yn ogystal â phlant i groesi’r ffyrdd.
Ar hyn o bryd mae dros 30,000 o Hebryngwyr croesfannau ysgol yn gweithio yn y DU, ac mae rhyw 1200 o swyddogion yma yng Nghymru.