Cartref » Defnyddwyr Ffyrdd » Teithwyr
Gweithredoedd Dogfen

Teithwyr

Teithwyr a diogelwch yn y car

Child in baby seatTeithwyr mewn ceir yw mwyafrif y rhai sy’n cael eu niweidio mewn damweiniau ffordd. Bob blwyddyn yn y DU mae dros 200,000 o deithwyr mewn ceir yn cael eu lladd neu eu hanafu.
Mae gwregysau diogelwch wedi’u cynllunio i leihau difrifoldeb anafiadau a ddioddefir gan ddamweiniau car. Eu pwrpas yw dal teithwyr yn eu seddau a’u rhwystro rhag cael eu taflu o’r cerbyd neu eu bwrw allan o’r ffenestri.

O’u gwisgo, mae gwregysau diogelwch yn fesur diogelwch effeithiol iawn. Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi amcangyfrif fod gwregysau diogelwch blaen wedi arbed miloedd o fywydau a degau o filoedd o anafiadau difrifol ers iddynt ddod yn orfodol yn 1983.  Amcangyfrifir hefyd bod gwregysau diogelwch cefn wedi arbed cannoedd o fywydau a miloedd o anafiadau difrifol ers iddynt ddod yn orfodol yn 1991. I weld crynodeb o’r ddeddfwriaeth ac esboniad ar gyfer gosod seddi ceir i blant a gwregysau diogelwch, cliciwch ar y ddolen hon http://www.childcarseats.org.uk/

Cynghorion hanfodol ar gyfer cludo plant mewn ceir

Sicrhewch fod eich sedd car i blentyn yn cydymffurfio â’r Safon Ewropeaidd ECE R44.03.Gwiriwch fod y sedd wedi’i phrofi i safon Brydeinig neu Ewropeaidd ac yn dwyn marc E (Cenhedloedd Unedig), nod barcud y BSI, neu farc E Ewropeaidd. Peidiwch byth â chludo plentyn heb ei ddiogelu â gwregys yn eich car. Peidiwch â defnyddio sedd car i blentyn sy’n ail-law onid ydych yn gwybod ei hanes a’i haddasrwydd. Defnyddiwch gyfarwyddyd y gwneuthurwr i osod y sedd car. Efallai na fydd eich sedd car yn addas i’w defnyddio yng ngheir eich teulu a’ch ffrindiau. Wrth gau’r bwcl, peidiwch â rhoi straen arno trwy ei blygu drosodd – bydd yn torri.

Ymddygiad yn y car

Yn ôl y ddeddf,rhaid gwisgo gwregys diogelwch drwy’r amser. Cadwch blant dan reolaeth drwy’r amser a sicrhewch eu bod yn defnyddio’r ataliadau priodol. Peidiwch â gadael iddynt dynnu sylw’r gyrrwr na’ch rhwystro rhag gweld drwy’r ffenestr gefn. Peidiwch â gadael iddynt chwarae gyda dolenni’r drws, y ffenestri na byclau’r gwregysau diogelwch. Peidiwch byth â gadael i deithiwr bwyso allan drwy ffenestr na sefyll i fyny drwy'r to haul. Mae hi yn erbyn y gyfraith i gario plentyn ar lin teithiwr yn y sedd flaen, hyd yn oed os yw’r teithiwr yn gwisgo gwregys diogelwch. Mewn damwain, ni fyddent yn gallu dal y plentyn, a byddai’n cael ei daflu trwy’r ffenestr flaen. Os ydych yn cario ci yn y car, cadwch reolaeth arno, a'i gadw yng nghefn car ystad neu yn y sedd gefn. Peidiwch byth â rhoi ci ar lin y gyrrwr. Pe bai’n cael ofn, gallai’r ci beri i chi golli rheolaeth ar y car. Cofiwch, mae’n fwy diogel i blant a theithwyr ddod allan o’r car ar ochr y palmant, ond gwnewch yn siŵr nad oes cerddwyr cyn i chi agor y drws.

I gael copïau o’n l;enyddiaeth amrywiol am ddiogelwch yn y car, ffoniwch y Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd ar: 029 2078 8521.

Cynllun ‘Gosod yn Gall’ Caerdydd

712Mae Adran Safonau Masnach Cyngor Caerdydd a’r Uned Diogelwch ar y Ffyrdd yn gweithredu cynllun ‘Gosod yn Gall’ unigryw ar hyn o bryd. Mae nifer o werthwyr wedi ymuno â’r fenter ac mae ganddynt staff gwybodus wedi’i hyfforddi ar gael i’ch helpu chi i ddewis a gosod y sedd blentyn gywir ar gyfer eich plentyn a’ch math o gar.

Os hoffech ragor o fanylion am y cynllun, neu daflen wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Diogelwch y Ffyrdd ar: 029 2078 8521.