Seiclwyr
Cyrsiau Hyfforddiant Seiclo yng Nghanolfan Diogelwch y Ffyrdd
Bob blwyddyn mae'r Tîm Diogelwch y Ffyrdd yn hyfforddi mwy na 1500 o seiclwyr ifanc trwy gyrsiau hyfforddi seiclo yn ysgolion Caerdydd. Yn ychwanegol i’r cyrsiau hyn mewn ysgolion, mae llawer o gyrsiau hefyd yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau ysgol yng Nghanolfan Diogelwch y Ffyrdd ym Maendy i ddisgyblion na all gael hyfforddiant yn yr ysgol.
Cynhelir y cwrs ar y dyddiadau a ddangosir ac maent am ddim ac yn agored i blant Caerdydd sy’n naw oed a hŷn sy'n berchen eu beic eu hun. Yn dilyn cyngor iechyd a diogelwch, mae gwisgo helmed seiclo nawr yn orfodol a gellir eu prynu o’r Ganolfan am £8 yr un. Gellir storio beiciau dros nos.
Mae’r cwrs yn cynnwys sgiliau seiclo ymarferol, gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr, gwiriadau beic sylfaenol a chyngor am wisgo offer amddiffynnol.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu lle ar gyfer eich plentyn ar gwrs yn ystod 2010, ffoniwch neu e-bostiwch Germaine Walsh yn y cyfeiriad isod.
Cyngor Caerdydd Canolfan Diogelwch y Ffyrdd
Ffordd y Goron, Maendy, Caerdydd CF14 3AJ
Ffon: 2078 8527
Nod y cyrsiau seiclo i blant:
- Lleihau nifer y seiclwyr ifanc sy’n cael eu hanafu yng Nghaerdydd bob blwyddyn.
- Creu ymwybyddiaeth o angen a phwysigrwydd hyfforddiant/addysg seiclo.
- Datblygu sgiliau arsylwi a symud.
- Annog y defnydd o ddillad a phenwisg diogelwch.
- Paratoi seiclwyr ifanc ar gyfer hyfforddiant ar y ffyrdd.
- Amlygu i’r rhieni bwysigrwydd hyfforddiant seiclo i blant.
Noder, os gwelwch yn dda, na allwn ddarparu hyfforddiant seiclo i'r rhai na all seiclo o gwbl.
Mae hyfforddiant i oedolion a phlant dihyder neu heb brofiad o reidio beic ar gael yn ystod misoedd yr haf yn:
| |
Trac Seiclo a Phwll Nofio Maendy, |
Hyfforddiant i seiclwyr ar y ffyrdd
Mae seiclwyr ifanc o nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghaerdydd yn cael eu hyfforddi ar ffyrdd cyhoeddus.
Mae’r cwrs hyfforddi chwe wythnos, sydd wedi’i drefnu gan yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd, wedi’i gynllunio i helpu datblygu seiclo ymarferol, sgiliau diogelwch ac ymwybyddiaeth, a bydd yn darparu sylfaen cynnar pwysig i yrwyr a seiclwyr y dyfodol.
Yn ôl ymchwil y Labordy Ymchwil Trafnidiaeth, mae seiclwyr ifanc yn elwa mwy o hyfforddiant ar y ffyrdd, gan ei fod yn gallu helpu i ddatblygu’r sgiliau penderfynu hanfodol sydd eu hangen i ymdopi â thraffig modern.
Cynhelir yr hyfforddiant ar ffyrdd lleol tawel, yn agos at yr ysgol, lle gellir ymarfer symudiadau syml fel troi i’r chwith a’r dde a goddiweddyd ceir wedi’u parcio. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hyfforddiant, rhaid i’r holl ddisgyblion fod wedi cwblhau cwrs hyfforddiant seiclo (os oes un ar gael) ac yn 10 oed o leiaf.
Bydd cynnydd y disgyblion yn cael ei fonitro trwy gydol y broses o asesu parhaus, ac ar ôl cwblhau’r cwrs bydd y seiclwyr ifanc yn cael tystysgrif cyrhaeddiad.
Am fanylion pellach cysylltwch â:
Canolfan Diogelwch y Ffyrdd,
Ffordd y Goron, Maendy
Caerdydd CF14 3AJ
Ffon: 2078 8521
Cyrsiau Seiclo Oedolion
Oes gennych chi ddiddordeb mynd yn ôl ar y beic, a chithau heb seiclo am flynyddoedd? Ydych chi am fod yn fwy hyderus wrth seiclo ar y ffordd?
Mae cyfle i oedolion ddatblygu mwy o sgiliau seiclo mewn cwrs undydd am ddim a gynhelir gan Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd. Treulir sesiwn y bore yn dysgu crefft-ffordd a theorïau pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau seiclo ymarferol, gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr, gwiriadau beic sylfaenol a chyngor am wisgo offer amddiffynnol. Bydd sesiwn y prynhawn (gan ddibynnu ar allu'r seiclwyr), yn cynnwys treulio amser yn seiclo ar hyd Taith y Taf ac amryw o lwybrau ar y ffordd gerllaw’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd.
Dyddiad:
Sul 20th Mehefin 2010
Sad 3rd Gorffennaf 2010
Sul 22nd Awst 2010
Amser:
10am – 4pm. NI ddarperir cinio
Gofynion Iechyd a Diogelwch:
Disgwylir i fynychwyr ddod â beic sy’n addas i’r ffordd ac yn addas i’w maint. Yn dilyn cyngor iechyd a diogelwch, argymhellir gwisgo helmed seiclo yn gryf.
Mwyafswm:
6 oedolyn a dau hyfforddwr.
Mynychwyr i’w targedu:
Mae’r cwrs ar gyfer plant ac oedolion sy’n gallu reidio beic ond yn dymuno meithrin hyder a datblygu gwybodaeth fel seiclwyr. Mae’r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer y rheini nad ydynt wedi seiclo ers peth amser ond sy’n awyddus i deithio ar feic neu seiclo gyda'u plant.
Costau:
Mae’r cwrs ei hun AM DDIM ond mae angen ffi archebu o £5 gan bob un sydd o bosibl yn mynychu, i’w ad-dalu ar y diwrnod.
Nodwch os gwelwch yn dda y cynhelir y cyrsiau dim ond os oes nifer digonol yn mynychu.
Mae’r cwrs ei hun AM DDIM ond mae angen ffi archebu o £5 (i’w ad-dalu ar y diwrnod) gan bob hyfforddai.
Am wybodaeth bellach yn ymwneud a’r cyrsiau, cysylltwch os gwelwch yn dda â Germaine yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd ar 2078 8527
Rheolau ar gyfer seiclwyr
Cyn dechrau symud, troi i’r chwith neu’r dde, goddiweddyd neu stopio, rhaid i chi edrych tu ôl i chi, er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn ddiogel ac wedyn, os oes angen, rhoi arwydd braich clir i ddangos eich bwriad.
Peidiwch â seiclo ar y palmant, onid oes arwyddion arbennig yn caniatáu i chi wneud hynny.
Ar ôl dringo ar eich beic, edrychwch o’ch cwmpas am draffig, ac wedyn, pan fydd yn ddiogel, dechreuwch seiclo.
Cadwch eich dwylo ar lyw'r beic drwy’r amser onibai eich bod yn arwyddo neu’n newid gêr.
Wrth droi i mewn i ffordd llall, cerddwyr sy’n croesi sydd â’r hawl, felly ildiwch iddynt hwy.
Rhaid i chi ufuddhau i oleuadau traffig neu arwyddion gan heddweision, wardeniaid traffig neu hebryngwyr croesfannau ysgol.
Peidiwch â gafael mewn cerbyd neu seiclwr arall.
Peidiwch â chario teithiwr ar eich beic, onibai ei fod wedi’i gynllunio’n arbennig i wneud hynny.
Ni ddylech dywys anifail wrth seiclo.
Gwyliwch rhag i draffig wneud pethau annisgwyl.
Wrth seiclo gydag eraill ar ffordd brysur neu gul, dylech seiclo un y tu ôl i’r llall. Ni ddylech byth seiclo gyda mwy na dau ochr yn ochr.
Seiclwch bob amser yn ddigon pell o ymyl y ffordd i osgoi draeniau a chwteri.
Os ydych am droi i’r dde oddi ar ffordd brysur, mae’n fwy diogel i STOPIO ar yr ochr chwith cyn neu ar ôl y gyffordd, ac aros am saib diogel yn y traffig, cyn cerdded â’ch beic ar draws y ffordd.
Ni ddylech wrando ar chwaraewr cerddoriaeth personol wrth seiclo, na defnyddio ffôn symudol.
Goddiweddwch os ydych yn sicr ei bod yn ddiogel gwneud hynny yn unig. Wrth oddiweddyd cerbydau wedi parcio, gwyliwch rhag iddynt ddechrau symud wrth i chi eu pasio a chadwch lygad allan am ddrysau ceir yn agor neu gerddwyr yn croesi rhwng y ceir. Dylech hefyd wylio am draffig yn dod tuag atoch.