Gyrwyr
Gyrwyr Hŷn
Yn ystadegol mae gyrwyr hŷn yn llai tebygol o gael
damwain car na gyrwyr iau neu lai profiadol. Maeymchwil yn dangos fod gyrwyr aeddfed yn gwneud llai o siwrneiau, a siwrneiau byrrach na phobl iau, ac ynteithio ar ffyrdd cyfarwydd yng ngolau ddydd gan amlaf.
Ond, mae effaith anochel heneiddio yn gallu effeithio ar eich golwg, eich clyw a'ch gallu i farnu perygl ac efallai na fyddwch yn sylwi ar y newidiadau graddol hyn. Os hoffech wella’ch sgiliau gyrru, ffoniwch y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd: 029 2078 8522 i gael pamffled am ddim, Cyngor i Yrwyr Hŷn.
Cwrs Gloywi i Yrwyr Hŷn 2010
Mae’r Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd wedi bod yn trefnu seminarau i Yrwyr Hŷn ers 2006. Mae pob seminar yn 2 ½ awr, a’r bwriad yw adfywio eich sgiliau gyrru ymarferol a’ch gwybodaeth am Reolau’r Ffordd Fawr. Byddwn yn trafod:
- Effeithiau cyflymdra
- Pellteroedd stopio
- Ymdrin â chyffyrdd
- Arsylwi gyrwyr
-
Achosion damweiniau ac iechyd
Dyddiadau am 2010
-
Dydd Iau 18fed Chwefror 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 18fed Mawrth 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 15fed Ebrill 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 20fed Mai 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 24ain Mehefin 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 22ain Gorffenaf 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 19eg Awst 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 14eg Hydref 1.30 - 4.30 y.p.
-
Dydd Iau 18 Tachwedd 1.30 - 4.30 y.p.
Os hoffech drefnu lle ar un o’r cyrsiau yn 2010 neu gael mwy o fanylion, cysylltwch â John Goff yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd, rhif ffôn: 029 2078 8522.
Cyfarwyddiadau i'r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd pdf
Pass Plus Cymru – Cynllun Gwella Gyrwyr Ifanc
Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd ar y cyd â Diogelwch y Ffyrdd Cymru, Hyfforddiant Gyrru MAC ac awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru yn hybu’r project hwn unwaith eto o’r enw “Pass Plus Cymru”, tan fis Mawrth 2011.
Bydd y project yn rhedeg o fis Mawrth 2011 ymlaen a bydd disgwyl i'r gyrwyr ifanc fynd i sesiwn theori tair awr, a gynhelir yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd, Maendy ar fore Sadwrn ac a ddilynir gan d sesiwn wyth awr ‘ar-y-ffordd-mewn-car” (wedi ei rhannu rhwng dau yrrwr) gyda Hyfforddwr Gyrru Cymeradwy cofrestredig Pass Plus.
Bydd y cynllun Pass Plus yn cynnwys chwe modiwl wedi eu cynllunio'n arbennig, yn ymdrin â’r canlynol:
- Gyrru o gwmpas y dref
- Gyrru y tu allan i’r dref
- Gyrru ym mhob tywydd
- Gyrru gyda'r nos
- Gyrru ar ffyrdd deuol
- Gyrru ar draffyrdd
Pynciau eraill yw gyrru amddiffynnol, ymwybyddiaeth o beryglon, canolbwyntio, cyflymder, gyrru a chyffuriau ac yfed, agweddau ac ymddygiad diogel.
Trwy gael eu hyfforddi gan hyfforddwr gyrru proffesiynol, bydd y cyfranogwyr yn ennill profiad gwerthfawr ychwanegol a sgiliau monitro cadarnhaol a fyddai fel arall yn cymryd amser hir i'w meistroli.
Bydd yr holl yrwyr ifanc sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i wella’u sgiliau gyrru ar y cynllun Pass Plus hwn, a gefnogir hefyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Pam ddylai gyrwyr ifanc ystyried Pass Plus Cymru?
Yn ogystal â lleihau’r perygl o fod mewn damwain car, bydd y cynllun yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau gwerthfawr. Wedi cwblhau’r cwrs bydd pob ymgeisydd yn cael Tystysgrif Cyrhaeddiad yn ogystal â Thystysgrif Pass Plus. Cost y cwrs, sydd wedi ei achredu gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yw £20 - gostyngiad sylweddol o’r costau arferol rhwng £120 a £150.
Dyddiadau’r Cwrs tan fis Mawrth 2011
8 Mai, 5 Mehefin, 10 Gorffennaf, 14 Awst, 4 Medi, 2 Hydref, 8 Tachwedd, 4 Rhagfyr, 15 Ionawr 2011, 5 Chwefror 2011 a 5 Mawrth 2011.
I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs rhai i chi fod: Rhwng 17 a 24 oed, yn meddu ar drwydded yrru lawn ac yn byw yng Nghymru
I gael mwy o fanylion neu gofrestru ar-lein, ewch i wefan dragondriver (cyfeiriad isod) neu fel arall ffoniwch 0845 050 4255.
Welsh Assembly Government Pass Plus page
Y Ddeddf Ffonau Symudol
Mae’n anghyfreithlon gafael mewn ffôn symudol i’w ddefnyddio wrth yrru, ac aeth y dirwyon i fyny o 27 Chwefror 2007. Byddwch bellach yn cael £60 o ddirwy a thri phwynt ar eich trwydded.
Diffoddwch y ffôn cyn gyrru.
Nid yw ffonau symudol a gyrru yn cymysgu.
Mae gan ffonau symudol sawl cryfder. Maent yn rhoi diogelwch ac yn gallu bod o gymorth mawr mewn argyfwng. Ond mae profion yn dangos bod gyrwyr yn methu â pheidio cael eu tarfu gan alwad ffôn neu neges destun. Os yw’r ffôn yn tarfu arnoch, fyddwch chi ddim yn gweld peryglon nac yn ymateb yn gyflym. Nid yw sgwrs ar ffôn heb ddwylo yn tarfu llai nag un yn y llaw.
Gallech hefyd gael eich erlyn am ddefnyddio ffôn symudol heb ddwylo os nad ydych mewn rheolaeth lawn o'ch cerbyd. Yna bydd y gosb yr un fath ag am ddefnyddio ffôn llaw ac mae'r gosb am yrru'n ddiofal neu'n beryglus wrth ddefnyddio ffôn yn gallu cynnwys gwaharddiad, dirwy drom a hyd at ddwy flynedd o garchar.
I gael copi am ddim o’r daflen ‘Marw i ateb yr alwad’, ffoniwch yr Uned Diogelwch ar y Ffyrdd, ar: 2078 8521.