Cartref » Defnyddwyr Ffyrdd » Beicwyr Modur
Gweithredoedd Dogfen

Beicwyr Modur

Hyfforddi ar gyfer Beicwyr Modur

248

Cynhelir cyrsiau  hyfforddi sylfaenol chwe wythnos yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd yn ystod tymhorau hydref a gaeaf yr ysgol, ac maent ar gael i holl ddisgyblion ysgolion uwchradd Caerdydd.

Y prif bwyslais yw rheoli’r peiriant ac arfer gyrru da, ond mae’r cwrs hefyd yn rhoi gwersi theori yn yr ystafell ddosbarth, sy’n ymdrin â dogfennau cyfreithiol, gwisg amddiffynnol, Rheolau'r Ffordd Fawr a rheoliadau traffig, economeg gyrru beic modur ac yfed a gyrru.

Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd pob disgybl yn ymgymryd ag asesiad gyrru ymarferol sylfaenol, ac os ydynt yn llwyddiannus, byddant yn cael tystysgrif. Os yr ydych yn athro ysgol uwchradd ac yn dymuno cael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd, rhif ffôn: 029 2061 9907/8.

 

Sefydliadau Hyfforddi Beiciau Modur Cymeradwy yng Nghaerdydd

1st Class Rider Training – Caerdydd ffôn: 029 2031 3465 neu ffôn symudol 0777 3303 654. http://www.1stclassrider.co.uk

Capitol Motorcycle School, 5 Heol-y-Wern, Rhiwbeina, Caerdydd, CF14 6NG Ffôn. 029 2064 1180

Cardiff Motorcycle School, Canolfan Bêl-droed Gôl, Lawrenny Avenue, Lecwydd, Caerdydd, CF11 8BR Ffôn. 029 2039 0329

Cymru Motorcycle School, Bookers Cash and Carry, Excelsior Road, Western Avenue, Caerdydd CF14 3XL Ffôn. 029 2064 1180

United Motorcycle Advanced Training Ltd (UMAT), 5 Cwrt-y-Parc, Earlswood Road, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GH. Ffôn: 029 2074 1124 Ffacs: 029 2074 1128 Ffôn Symudol: 07811 591777 9am. - 6pm.

http://www.umat.co.uk

 

Bike Safe Cymru


396

Mae BikeSafe yn fenter a redir gan Heddluoedd ar draws y Deyrnas Unedig sy’n gweithio gyda’r byd beicio i helpu i leihau nifer y damweiniau ym mhlith gyrwyr beiciau modur. Trwy drosglwyddo eu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad gall beicwyr modur yr heddlu eich helpu i fod yn feiciwr modur mwy diogel a chymwys.

 

 

479

Mae’r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd yn gartref i BikeSafe Cymru ar hyn o bryd. 

 

Click here for the Official BikeSafe website.