Cartref » Amdanom ni
Gweithredoedd Dogfen

Y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd

Mae Uned Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor Sir wedi ei leoli yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd, Maendy, Caerdydd. Mae ganddi enw gwych ar draws Cymru am ei haddysg diogelwch y ffyrdd, hyfforddi, cyhoeddusrwydd a gwasanaethau Patrol Croesi Ysgolion Mae adnoddau yn y Ganolfan newydd yn cynnwys, ystafelloedd darlithio a hyfforddi, ac offer sydd wedi eu cynllunio’n arbennig ar gyfer addysg traffig a’u gosod ar gyfer hyfforddiant ymarferol i helpu cerddwyr, seiclwyr, beicwyr modur a gyrwyr. Mae’r cynllun yn cynnwys ffyrdd, palmentydd, arwyddion traffig, signalau traffig, croesfan sebra a phelican a hyd yn oed gylchfan mini.

 

Cwrdd â’r Tîm

Mae gan yr uned diogelwch y ffyrdd staff o wyth swyddog sy'n ymwneud â hybu ystod eang o addysg diogelwch y ffyrdd, hyfforddi a rhaglenni cyhoeddusrwydd a mentrau.

Cysylltwch os gwelwch yn dda â’r Tîm Diogelwch y Ffyrdd Ffôn:  029 2078 8521

Col 01 Col 11
 

David Evans
Principal Road Safety Officer
Prif Swyddog Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn: 029 2078 8521: Ffacs: 029 2087 7058
E-bost: rso1@caerdydd.gov.uk

  David Evans (Principal Road Safety Officer)
John Goff

Senior Road Safety Officer
Uwch Swyddog Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn: 029 2078 8522, Ffacs: 029 2087 7058
E-bost: rso2@caerdydd.gov.uk

 John Goff (Senior Road Safety Officer)
 Paul Griffiths

Road Safety Training Officer Swyddog Hyfforddi Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn: 029 2078 8528, Ffacs: 029 2087 7058
E-bost: rso2@caerdydd.gov.uk

 Paul Griffiths
Sallyanne Dangerfield

Road Safety Training Officer Swyddog Hyfforddi Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn: 029 2078 8525, Ffacs: 029 2087 7058 
E-bost: rso2@caerdydd.gov.uk

 Sallyanne Dangerfield (Road Safety Training Officer)
Germaine Walsh

Road Safety Training Officer
Swyddog Hyfforddi Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn: 029 2078 8527, Ffacs: 029 2087 7058
E-bost: rso2@caerdydd.gov.uk

 Germaine Walsh (Road Safety Training Officer)
John Reed

Road Safety Training Officer
Swyddog Hyfforddi Diogelwch y Ffyrdd
Ffôn 0292078 8526, Ffacs 029 2087 7058 
E-bost:rso2@caerdydd.gov.uk

 John Reed (Road Safety Training Officer)
Jayne Warnock

Child Pedestrian Training Coordinator
Cydgysylltydd Hyfforddiant i Gerddwyr Ifanc
Ffôn: 029 2078 8523, Ffacs: 029 2087 7058
E-bost: 
rso2@caerdydd.gov.uk

 Jayne Warnock (Child Pedestrian Training Coordinator)
 

Maurice Lawrence
Safer Routes to School Officer
Swyddog Llwybrau Diogel i'r Ysgol
Ffôn: 029 2078 8524, Ffacs: 029 2087 7058
E-bost: rso2@caerdydd.gov.uk

 

Maurice2

Sioned Richards
Child Pedestrian Training Assistant
Cynorthwy-ydd Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc
Phone: 029 2078 8526, Ffacs: 029 2087 7058
Email: rso2@cardiff.gov.uk

 

Sioned Richards

Tim Anfield
'Bike It' Officer - Sustrans
Swyddog 'Bike It' - Sustrans
Phone: 029 2078 8531, Ffacs: 029 2087 7058
Email: rso2@cardiff.gov.uk

 

Tim Anfield

Hanes Briardene

 

Briardene1

 

246

Briardene 

 

Dros y blynyddoedd, mae llawer o ymwelwyr i Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd wedi sôn am ysblander a chymeriad yr esiampl wych yma o bensaernïaeth Fictoraidd ac wedi gofyn sawl cwestiwn am ei hanes. Ar wahân i un garreg sylfaen yn dyddio’n ôl i 1903, sydd wedi ei gosod mewn wal o dan y portsh, y brif fynedfa bellach, a’r llefydd tân cyfnod gwych, ychydig sy’n wybyddus am y tŷ a adwaenwyd yn y gorffennol fel Briar Dene.

Yn 1999, ymwelodd Meriel Lewis, sydd â chysylltiadau teuluol gyda'r tŷ, a'r Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd a phenderfynu gwneud ymchwil fanwl i hanes Briar Dene. Ar ôl 100 mlynedd mae’r hen dŷ braf hwn wedi ildio rhai o gyfrinachau ei orffennol ar ffurf casgliad da o ffotograffau gwreiddiol, tri ohonynt i'w gweld uchod.

Ceisiwch ddychmygu Briar Denes fel yr ydoedd mewn dyddiadau a fu, gyda phlant ifanc yn chwarae yn y gerddi eang, yn pigo afalau o’r perllannau. Morwynion yn mynd o gylch eu gwaith dyddiol, garddwyr yn edrych ar ôl eu rhosod, gwrychoedd a dreifiau, gwesteion yn mwynhau te prynhawn ar batio neu gêm o croquet ar y lawnt. Briar Dene, y cartref a fu, bellach yw swyddfa a man gwaith Tîm Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Caerdydd.

 

Cynnwys sy'n perthyn
  • Ar y Cychwyn

    Daeth Bridget Driscoll yn enwog yn sydyn pan gamodd oddi ar y pafin ac i’r llyfrau hanes. Daeth Mrs Driscoll, 44 mlwydd oed, a oedd yn teithio o’r Hen Dref, Croydon i arddangosfa dawnsio gwerin yn Crystal Palace, y ddynes gyntaf yn y DU i gael ei lladd gan gar ar Awst 17, 1896.