Gweithredoedd Dogfen

Uned Diogelwch y Ffyrdd

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi symud

Mae Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Caerdydd wedi ail-leoli o Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd Briardene ar Heol y Gogledd i’w bencadlys newydd yn Stadiwm Maendy.

Bydd y tîm yn gweithio’n agos gyda staff Canolfan Hamdden Maendy i gynnig gwasanaeth mwy cynhwysfawr i gyhoedd Caerdydd, gan gynnwys amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi seiclo.

Dyma ein manylion cyswllt newydd:

Canolfan Ddiogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd
Crown Way
oddi ar Heol y Gogledd
Caerdydd CF14 3AJ

Ffôn: 029 2078 8521

Canolfan Diogelwch ar y Ffyrdd newydd - Maendy

MaindyNew

Cyfarwyddiadau pdf

Dolen i wefan Canolfan Maendy Dolen i weithgareddau Canolfan Hamdden Maendy

Croeso i wefan Uned Diogelwch Ffyrdd Cyngor Caerdydd, lle gallwch chi gael hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch pob agwedd o addysg, hyfforddiant a chyhoeddusrwydd diogelwch y ffyrdd .

Cewch fanylion hefyd am y gwasanaethau diogelwch ffyrdd lleol a gynigir gan Gyngor Caerdydd. Mae llawer o wybodaeth ar y safle ar gyfer ysgolion a phlant o bob oed a gallu, e.e. Cwisiau, cystadlaethau, syniadau project Llwybrau Mwy Diogel i’r Ysgol a’r Clwb ‘Roadie’.

Mae’r wefan hefyd yn cynnig cysylltiadau â gwefannau diogelwch y ffyrdd eraill ac yn darparu cyfleuster chwilio defnyddiol.

Gall ysgolion a sefydliadau addysgol fenthyg ystod eang o adnoddau addysgol diogelwch y ffyrdd, yn gysylltiedig â’r cwricwlwm cenedlaethol. Cliciwch ar y ddolen isod i ymweld â’n Canolfan Diogelwch y Ffyrdd.

 

 

Newyddion a Digwyddiadau..

Seat belt/child restraint wearing requirements

Seat belt/child restraint wearing requirements

Children under 3 years MUST use the child restraint appropriate for their weight in any vehicle (including vans and other goods vehicles)

Darllen mwy…

Gwasanaeth gosod seti car plant a phrofi diogelwch

Gwasanaeth gosod seti car plant a phrofi diogelwch

Gall staff yn y Ganolfan Diogelwch y Ffyrdd weithredu profion diogelwch a rhoi cyngor ar y ffordd gywir i osod sedd car plentyn a rhwystrau. Os hoffech fwy o fanylion, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar Gaerdydd (029) 2061907. Gweler gwefan RoSPA

Darllen mwy…

Cyrsiau Seiclo Oedolion

Oes gennych chi ddiddordeb mynd yn ôl ar y beic, a chithau heb seiclo am flynyddoedd? Ydych chi am fod yn fwy hyderus wrth seiclo ar y ffordd?

Darllen mwy…